Aberdaron
Read this page in English
ABERDARON
Pendraw’r Byd
Mae Aberdaron yn bentref glan môr taclus a syfrdanol o brydperth ar
ben pellaf trwyn Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd - ardal y cyfeirir ati'n ami
fel 'Pen Draw Byd'.
Fel y bardd a'r Archdderwydd Cynan gynt mae'r teithiwr sy'n cyrraedd pen pellaf Llŷn yn ymwybodol o "greigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr" yn bell cyn cyrraedd y pentref ei hun. Mae gelltydd serth yn taflu'r teithiwr i ben ei daith.
Dynodir canol Aberdaron gan bont garreg, o'r ail ganrif ar bymtheg, sy'n croesi Afon Daron wrth i honno gychwyn ar gymal olaf ei thaith i'r bae. Ger y traeth mae'r hen fythynnod pysgotwyr gwyngalchog, sy'n edrych draw am Ynys Gwylan Fawr ac Ynys Gwylan Fach, yn atgof o ddibyniaeth traddodiadol y gymuned leol ar y môr.
Mae'r traethau yn ardal Aberdaron yn nifeus a glân. Mae mynedfa hawdd
i Borth lago a Phorthoer (AO 167300) gyda'i dywod sy'n gwichian wrth
gerdded yn rhyfeddod ynddo'i hun. Mae mwy o waith tramwyo i Borth Meudwy
(AO 164253) - traeth a ddefnyddir o hyd fel y prif fan cychwyn y
fordaith o ddwy filltir, dymhestlog ar adegau, dros y swnt i Enlli. Mae
llwybr serth, heibio i hen weithfeydd
manganese, yn aros y sawl sy'n ymweld a Phorth Ysgo (AO 204263).
Dwy filltir i'r gogledd ddwyrain o Aberdaron mae Castell Odo (AO 187285)
- caer hynafol o Oes yr Haearn. Dyma un o gaerau hynaf o'i fath yn Ewrop
(oddeutu 425 Cyn Crist) ac mae olion i'w gweld yno hyd heddiw.
Yn y canoloesoedd daeth Aberdaron ac Ynys Enlli yn ganolfan bwysig i bererinion yng Nghymru. Gallai'r pererinion aros am wythnosau yn Eglwys Hywyn Sant cyn cael cyfle i groesi'r swnt. Ymwelodd Edward I a'i lys Aberdaron ar ei ffordd i Enlli yn 1284. Roedd tair pererindod i Enlli yn gyfystyr ag un i Rufain yn y dyddiau cynnar. Mae nifer fawr o bobi yn dal i ymweld ag Uwchmynydd ac Aberdaron i ddilyn ôl traed y pererinion.
Mae bosib fod y Brenin Arthur ei hun wedi'i gladdu yn Enlli. Erys enw Gwenonwy, chwaer y Brenin Arthur, o hyd yn yr ardal. Ceir Maen Gwenonwy (A0:209251) yn ymwthio i'r mor i'r dwyrain o Aberdaron. Gerllaw mae Porth Cadlan. Mae Cadlan yn dalfyriad o Gadgamlan, hen air am golli brwydr. All Cadlan fod yr un man a Chamlan - safle brwydr ola'r brenin Arthur, ac ai Enlli yw Afallon -ynys yr afalau?
Mae Aberdaron a'r cylch yn cynnig dewis o westai, gwely a brecwast a llety hunan ddarpar yn ogystal a meysydd gwersylla a charafanau. Ceir hefyd amrywiaeth o gaffis, bwyty bwyd mor a siopau. Mae maes parcio hwylus ar gyfer y traeth neu'r rhwydwaith eang o Iwybrau a theithiau cerdded amlwg a chydnabyddiedig sy'n britho'r fro.
Pensaer Portmeirion, Syr Clough Williams-Ellis, gynlluniodd hen Lythyrdy'r pentref. Yn Eglwys Hywyn Sant, sy'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed Ganrif, ceir arddangosfa'n dehongli bywyd a gwaith y bardd a'r cenedlaetholwr, R.S.Thomas, fu'n offeiriad y plwyf o 1967 hyd 1978. Yn rheolaidd yn ystod misoedd yr haf, cynhelir regata Aberdaron gyda chychod pren, sy'n unigryw i'r ardal.
Ond rhaid teithio tua'r gorllewin i gyrraedd 'Pendraw'r Byd' y cyfeiriodd Cynan ato. Yma mae Uwchmynydd a Mynydd Mawr (AO 145255) lle y ceir safle picnic sy'n cynnig y golygfeydd godidocaf o Fae Ceredigion, Ynys Enlli, a hyd yn oed Fynyddoedd Wicio yn Iwerddon. Yma hefyd y gwelir "rhyfeddod y machlud dros Benrhyn Llŷn" ar ei orau.
Tir o eiddo'r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw hwn lle mae'r mynydd yn cwympo i'r
eigion islaw. Dyma gyfle gwych i weld y fran goesgoch brin yn ei
chynefin a mwynhau cwmpeini yr hebog, y cydull, y pal, y dinwen a'r
aderyn drycin, heb son am y dolffin, y llambedyddiol a'r morlo.
Mae llwybr i lawr y clogwyn yn arwain i Ffynnon Fair. Dywedir bod rhinweddau arbennig i'r ffynnon gan fod y dŵr ynddi bob amser yn groyw er i'r llanw ei gorchuddio ddwywaith yn y dydd. Gellir dychwelyd i Aberdaron heibio i'r fan lle y bu Cae'r Eos (A0163287), cartref Richard Robert Jones neu Dic Aberdaron (1780-1843). Dywedir i'r "ieithmon a'r cathmon hwn o Lŷn", chwedl Syr T.H. Parry-Williams, siarad pymtheg iaith a chrwydrai'r wlad gyda'i lyfrau a'i gath yn gwmni.
Tair milltir i'r dwyrain o Aberdaron saif mynydd a phentref Y Rhiw (AO 226277) lle y ceir golygfeydd dros weddill Llŷn ac am gyfeiriad "Yr Wyddfa a'i chriw". Gerllaw mae Plas yn Rhiw, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (AO 237286).
Gobeithiwn y mwynhewch eich ymweliad ag Aberdaron a'r cylch lle mae croeso cynnes Cymreig yn eich aros.