Bwthyn Meillionydd Bach

 

 

Cliciwch ar y lluniau uchod i'w gweld yn fwy manwl.

Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt: Mrs Lowri Thomas
Cyfeiriad: Aberdaron LL53 8HY
Rhif Ffôn: 01758 780318
Ebost: meillionyddbach@btconnect.com
Gwefan: www.meillionydd.co.uk

Nodweddion Arbennig

Categori: Hunan-ddarpar
Cysgu i fyny i 2 person
Croeso i Cwn
Sêr: 4

Adeilad allanol wedi ei droi yn fwthyn 4* cysurus a chlyd o safon uchel i ddau yw 'Bwthyn Meillionydd Bach'.Yn agos i draethau a cildraethau arbennig . Wedi ei leoli 1 milltir o Borth Ysgo, 3 milltir o'r pentref hardd Aberdaron, a Phorthoer. Nifer fawr o lwybrau gyda golygfeydd godidog. Lle arbennig i gerddwyr ond hefyd 'lle i enaid gael llonydd' . Safle hwylus i ddarganfod Llyn. Mwynhewch y bywyd gwyllt, y traethau, y môr ar bryniau. Ystafell ddwbwl yn cysgu 2. Ystafell folchi gyda cawod ar y llawr cyntaf. Llawr gwaelod yn gynllun agored yn cynnwys cegin fodern gyda stôf trydanol, golchwr llestri, rhewgell ac oergell mewn un a microdon. Parlwr gyda stôf goed, i ymlacio ar ôl diwrnod o gerdded. Mae hefyd mapiau a llyfrau lleol ar gael. Cwn drwy drefniant yn unig.


Top