Glandwr

 

 

Cliciwch ar y lluniau uchod i'w gweld yn fwy manwl.

Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt: Peter Hewlett
Cyfeiriad: Aberdaron
Rhif Ffôn: 01758 760 652
Ebost: enquiries@aberdaron-glandwr.co.uk
Gwefan: www.aberdaron-glandwr.co.uk

Nodweddion Arbennig

Categori: Hunan-ddarpar
Cysgu i fyny i 6 person
WiFi

Hen fwthyn pysgota wedi ei foderneiddio- ystafelloedd golau a digon o le. Yng nghanol y pentref, gyferbyn â'r eglwys ac yn union uwchben y traeth a'r môr. Lleoliad godidog a golygfeydd syfrdanol tua'r de! Mynediad i'r traeth yn union gyferbyn, gyda holl brif gyfleusterau'r pentref ychydig funudau i ffwrdd (2 dafarn, siopau a chaffis).  Tair ystafell wely : un ystafell ddwbl, dwy gyda gwelyau bync. Lle i bedwar gysgu yn gyfforddus, ond mae'n bosib i chwech aros yma.  Gwres canolog nwy llawn.  Stôf logiau.  Cyfleuster bath a chawod gyda rheilen dyweli wedi ei gwresogi.  Wi-Fi am ddim, teledu sgrîn fflat gyda BT Vision a Freesat, peiriant DVD a CD/radio.  Peiriant golchi llestri, hob nwy a phopty mewn cegin fodern. Peiriant golchi gyda pheiriant sychu.  Parcio preifat yn y pentref.  Darperir duvets a gobenyddion. Ni chaniateir anifeiliaid anwes.  Dim Ysmygu yn y ty.  Archebion Sadwrn - Sadwrn, ond hyblygrwydd yn bosibl.  Cysylltwch i ddarganfod pa bosibiliadau sydd ar gael, i gael yr holl fanylion a'r prisiau tra bo'r wefan yn cael ei pharatoi.


Top