Manaros

 

 

Cliciwch ar y lluniau uchod i'w gweld yn fwy manwl.

Manylion Cyswllt

Enw Cyswllt: Mr P Hewlett
Cyfeiriad: Aberdaron LL53 8BP
Rhif Ffôn: 01758 760652
Ebost: enquiries@aberdaroncottage.co.uk
Gwefan: http://www.aberdaroncottage.co.uk/

Nodweddion Arbennig

Categori: Hunan-ddarpar
Cysgu i fyny i 8 person
Sêr: 4

Llety 4 seren newydd sbon i 8 o bobl gyda phosibilrwydd llety hunan-ddarpar NEU wely a brecwast gwasanaeth, a phecynnau gweithgareddau yn cynnwys cerdded, seiclo a golff. Llety moethus hygyrch, un llawr, wedi ei adeiladu'n un pwrpas i'w osod i grwpiau o ffrindiau / teuluoedd sydd eisiau mwynhau holl fanteision adeilad eang, cynllun agored cyfforddus ynghyd â phreifatrwydd lleoliad neilltuedig a 4 ystafell wely ddwbl en suite. Ystafell fyw eang cynllun agored gyda stof losgi coed. Ystafell fwyta gyda bwrdd sy'n agor allan ar gyfer 12 o bobl-  4 ystafell wely ddwbl en suite / ystafell dau wely sengl. Cegin gyda phob cyfleuster wedi ei integreiddio yn cynnwys popty range, oergell-rhewgell Americanaidd a pheiriant golchi llestri. Ystafell wydr fawr ger patio eang gyda llecyn barbeciw, sy'n edrych dros gaeau agored. Ystafell olchi / sychu ac ystafell ychwanegol i storio beiciau ayyb. Adeilad ecogyfeillgar. 3 munud o waith gerdded o bentref pictiwresg Aberdaron lle ceir 2 dafarn ragorol, siopau a thraeth.


Top